Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 143(3DB) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2011 Rhif (Cy. )

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1. Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau ynghylch trefniadau ar gyfer penodi Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol (“EIMAau”). Maent yn cynnwys darpariaethau ynghylch pwy y caniateir ei benodi i weithredu'n EIMA, a'r personau y caniateir i EIMA ymweld â hwy a'u cyfweld er mwyn darparu cymorth i glaf cymwys Cymreig a gafodd ei dderbyn o dan adran 4 (derbyn ar gyfer asesiad mewn achosion brys) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (“y  Ddeddf”).

2. Mae rheoliad 3 yn darparu—

(a)     bod yn rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol (BILlau) wneud trefniadau bod EIMAau ar gael i gleifion cymwys Cymreig dan orfodaeth (fel y'u diffinnir yn adran 130(I) o'r Ddeddf), sy'n bresennol yn ardal y BILl pan ddarperir y gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol. Cleifion cymwys Cymreig dan orfodaeth yw'r rheini:

                           (i)    sy'n agored i gael eu cadw'n gaeth (heblaw o dan adrannau 135 a 136 o'r Ddeddf) mewn ysbyty neu sefydliad cofrestredig (rheoliad 3(1)(a)),

                         (ii)    sy'n destun gwarcheidiaeth neu orchymyn triniaeth gymunedol o dan y  Ddeddf (rheoliad 3(1)(b)),

                       (iii)    sy'n cael eu hystyried am ffurf ar driniaeth sy'n dod o dan adran 57 o'r Ddeddf (rheoliad 3(1)(c)), neu

                        (iv)    nad ydynt wedi cyrraedd 18 mlwydd oed ac sy'n cael eu hystyried am ffurf ar driniaeth o dan adran 58A o'r Ddeddf (rheoliad 3(1)(c));

(b)     bod yn rhaid i BILlau wneud trefniadau bod EIMAau ar gael i gleifion anffurfiol cymwys Cymreig (fel y'u diffinnir yn adran 130(J) o’r Ddeddf), sy'n bresennol mewn ysbyty neu sefydliad cofrestredig yn ardal y BILl pan ddarperir y gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol (rheoliad 3(2));

(c)     y caiff BILlau wneud trefniadau gyda darparwyr gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer darparu EIMAau (rheoliad 3(3));

(ch) pan wneir trefniadau ar gyfer darparu EIMAau rhaid i BILl roi sylw, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, i'r amgylchiadau amrywiol sydd gan gleifion cymwys Cymreig dan orfodaeth a chleifion anffurfiol cymwys Cymreig (rheoliad 3(4));

(d)     bod yn rhaid i unrhyw berson a benodwyd i weithredu'n EIMA naill ai fod wedi ei gymeradwyo gan y BILl neu wedi ei gyflogi gan ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth y mae BILl wedi gwneud trefniadau gydag ef ar gyfer darparu gwasanaethau eiriolaeth (rheoliad 3(5));

(dd) bod yn rhaid i BILl, cyn cymeradwyo penodi person yn EIMA, gael ei fodloni bod y person hwnnw'n bodloni’r gofynion penodi a ddarperir yn rheoliad 4 a'r gofynion annibyniaeth a ddarperir yn rheoliad 5  (rheoliad 3(6));

(e)     bod yn rhaid i BILl sicrhau bod unrhyw ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth y mae'n gwneud trefniadau gydag ef ar gyfer darparu gwasanaethau eiriolaeth yn sicrhau bod unrhyw berson y mae'r darparydd yn ei gyflogi'n EIMA yn bodloni’r gofynion penodi a ddarperir yn rheoliad 4 a'r gofynion annibyniaeth a ddarperir yn rheoliad 5  (rheoliad 3(7)); ac

(f)      eglurder pan fydd person wedi ei gyflogi gan ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth  (rheoliadau 3(8)).

3. Mae rheoliad 4 yn gosod y gofynion penodi y mae'n rhaid i berson eu bodloni cyn y caniateir iddo gael ei benodi'n EIMA.

4. Mae rheoliad 5 yn gosod y gofynion annibyniaeth y mae'n rhaid i berson eu bodloni cyn y caniateir iddo gael ei benodi'n EIMA.  

5. Mae rheoliad 6 yn darparu y caniateir i EIMA ymweld â phersonau penodol nad ydynt yn ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol claf cymwys Cymreig dan orfodaeth a gafodd ei dderbyn o dan adran 4 o'r Ddeddf a'u cyf-weld at ddibenion darparu cymorth i glaf o'r fath.

6. Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer dirymu Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/2437 (Cy. 210)).

7. Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi cael ei baratoi o ran y costau a'r manteision tebygol o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Tîm Deddfwriaeth Iechyd Meddwl, yr Adran  Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 143(3DB) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2011 Rhif (Cy. )

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol) (Cymru) 2011

Gwnaed                                                2011

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)             

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130E(2), (3)(a) a (b), (4)(b), (5)(b), (7) a 130H(1)(b) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983([1]) a chan adrannau 12, 203 a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([2]).

Mae drafft o'r offeryn hwn wedi cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 143(3DB) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a'i gymeradwyo gan benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol) (Cymru) 2011.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym—

(a)     i’r graddau maent yn ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymreig([3]) ar 2 Ebrill 2012; a

(b)     at bob diben arall ar 3 Ionawr 2012.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli 

2. Yn y Rheoliadau hyn— 

ystyr “darparydd gwasanaethau eiriolaeth” (“provider of advocacy services”) yw corff neu berson, gan gynnwys corff gwirfoddol, sy'n cyflogi personau y trefnir eu bod ar gael i weithredu fel EIMA;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983;

ystyr “EIMA” (“IMHA”) yw eiriolwr iechyd meddwl annibynnol; ac

ystyr “gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol” (“independent mental health advocacy service”) yw'r gwasanaeth a ddarperir i glaf cymwys Cymreig dan orfodaeth([4]) neu i glaf anffurfiol cymwys Cymreig gan ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth.

Trefniadau ar gyfer eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol

3.(1)(1) Yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wneud y trefniadau hynny y mae o'r farn eu bod yn rhesymol i alluogi EIMAau i fod ar gael i weithredu ynghylch claf cymwys Cymreig dan orfodaeth—

(a)     sy'n agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty neu mewn sefydliad cofrestredig, p'un a yw mewn ysbyty neu mewn sefydliad cofrestredig sydd o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, ac y mae'n bresennol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ar yr adeg pan ddarperir gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol;

(b)     sy'n destun gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf neu sy'n glaf cymunedol ac y mae'n bresennol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ar yr adeg pan ddarperir gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol; neu

(c)     sy'n gymwys o dan adran 130I(3) o'r Ddeddf ac y mae'n bresennol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ar yr adeg pan ddarperir gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol.

(2) Yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wneud y trefniadau hynny y mae o'r farn eu bod yn rhesymol i alluogi EIMAau i fod ar gael i weithredu ynghylch claf anffurfiol cymwys Cymreig sy'n bresennol mewn ysbyty neu mewn sefydliad cofrestredig sydd o fewn  ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ar yr adeg pan ddarperir gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol.

(3) Wth wneud trefniadau o dan baragraffau (1) a (2) caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniadau gyda darparydd gwasanaethau eiriolaeth.

(4) Wrth wneud trefniadau o dan baragraffau (1) a (2) rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, roi sylw i amgylchiadau amrywiol (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i anghenion ethnig, ieithyddol, diwylliannol a demograffig) cleifion cymwys Cymreig dan orfodaeth a chleifion anffurfiol cymwys Cymreig y caniateir i'r Bwrdd Iechyd Lleol arfer y swyddogaethau hynny mewn cysylltiad â hwy.

(5) Ni chaiff neb weithredu fel EIMA onid yw'r person hwnnw wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu wedi ei gyflogi i weithredu fel EIMA gan ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau gydag ef o dan baragraff (3).

(6) Cyn cymeradwyo unrhyw berson o dan baragraff (5) rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol gael ei fodloni bod y person yn bodloni'r gofynion penodi yn rheoliad 4 a'r gofynion annibyniaeth yn rheoliad 5.

(7) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sicrhau ei bod yn ofynnol i unrhyw ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth y mae'n gwneud trefniadau gydag ef o dan baragraff (3), yn unol â thelerau'r trefniant hwnnw, sicrhau bod unrhyw berson—

(a)     sy'n gyflogedig gan y darparydd gwasanaethau eiriolaeth hwnnw; a

(b)     y trefnwyd ei fod ar gael i weithredu fel EIMA,

yn bodloni'r gofynion penodi yn rheoliad 4 a'r gofynion annibyniaeth yn rheoliad 5.

(8) Yn y rheoliad hwn mae person yn gyflogedig gan ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth os yw'r person hwnnw—

(a)     yn gyflogedig gan ddarparydd gwasanaethau eiriolaeth o dan gontract gwasanaeth; neu

(b)     wedi ei gymryd ymlaen gan y darparydd gwasanaethau eiriolaeth o dan gontract am wasanaethau.

Gofynion penodi ar gyfer eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol

4.(1)(1) Y gofynion penodi y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(6) a (7) yw—

(a)     bod gan berson brofiad neu hyfforddiant priodol neu gyfuniad priodol o brofiad a hyfforddiant;

(b)     bod person yn unplyg ac o gymeriad da; ac

(c)      nad yw person yn gyflogedig o dan gontract gwasanaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y penodiad ar gyfer ei ardal.

(2) Wrth benderfynu a yw person yn bodloni'r gofyniad penodi ym mharagraff (1)(a) rhaid rhoi sylw i safonau yn unrhyw Godau Ymarfer a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 118 (codau ymarfer) o'r Ddeddf, ac unrhyw ganllawiau a ddyroddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

(3) At ddibenion paragraff (2) caniateir i safonau gynnwys unrhyw gymwysterau y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu eu bod yn briodol.

(4) Cyn gwneud penderfyniad at ddibenion paragraff (1)(b) mewn perthynas ag unrhyw berson, rhaid cael mewn cysylltiad â'r person hwnnw, dystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd yn unol ag adran 113B (tystysgrifau cofnod troseddol manwl) o Ddeddf yr Heddlu 1997([5]) sy'n cynnwys—

(a)     pan fo person i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer cleifion cymwys Cymreig dan orfodaeth a chleifion anffurfiol cymwys Cymreig nad ydynt wedi cyrraedd 18 oed, wybodaeth ynghylch addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA o Ddeddf yr Heddlu 1997); a

(b)     pan fo person i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer cleifion cymwys Cymreig dan orfodaeth a chleifion anffurfiol cymwys Cymreig sydd wedi cyrraedd 18 oed, wybodaeth ynghylch addasrwydd mewn perthynas â phersonau hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB o Ddeddf yr Heddlu 1997).

 Gofynion annibyniaeth ar gyfer eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol

5.(1)(1) Y gofynion annibyniaeth y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(6) a (7) yw, i'r graddau y mae'n ymarferol, bod rhaid i berson allu gweithredu'n annibynnol o unrhyw unigolyn—

(a)     sy'n ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf cymwys Cymreig dan orfodaeth neu’r claf anffurfiol cymwys Cymreig;

(b)     sy'n gofyn i'r person hwnnw i ymweld â’r claf cymwys Cymreig dan orfodaeth neu’r claf anffurfiol cymwys Cymreig neu ei gyf-weld.

(2) Yn achos claf cymwys Cymreig dan orfodaeth a gafodd ei dderbyn ar gyfer asesiad o dan adran 4 (derbyn ar gyfer asesiad mewn achosion brys) o'r Ddeddf, yn ychwanegol at y gofynion ym mharagraff (1) rhaid i  berson allu gweithredu—

(a)     yn annibynnol o'r proffesiynolyn iechyd meddwl a gymeradwywyd neu'r berthynas agosaf a wnaeth y cais iddo gael ei dderbyn yn unol ag adran 4(2) o'r Ddeddf; a

(b)     yn annibynnol o'r meddyg a ddarparodd yr argymhelliad meddygol yn unol ag adran 4(3) o'r Ddeddf,

pan na fo'r personau a bennir yn (a) a (b) hefyd yn ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf cymwys Cymreig dan orfodaeth.

(3) Nid yw person yn ymwneud yn broffesiynol([6]) â thriniaeth feddygol claf cymwys Cymreig dan orfodaeth neu'n ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol claf anffurfiol cymwys Cymreig os yw'r person hwnnw—

(a)     yn gweithredu, neu wedi gweithredu unwaith neu fwy nag unwaith, fel EIMA i'r claf yn unol ag adrannau 130F (trefniadau o dan adran 130E ar gyfer cleifion cymwys Cymreig dan orfodaeth) neu 130G (trefniadau o dan adran 130E ar gyfer cleifion anffurfiol cymwys Cymreig) o'r Ddeddf; neu

(b)     yn cynrychioli neu'n cynorthwyo, neu wedi cynrychioli neu gynorthwyo, y claf ac eithrio yn unol ag adrannau 130F neu 130G o'r Ddeddf, ond fel arall heb ymwneud â thriniaeth y claf.

Personau y caniateir iddynt gael ymweliad neu gael eu cyf-weld gan EIMA at ddibenion darparu cymorth i glaf cymwys Cymreig dan orfodaeth a gafodd ei dderbyn o dan adran 4 (derbyn ar gyfer asesiad mewn achosion brys) o'r Ddeddf

6. Yn achos claf cymwys Cymreig dan orfodaeth a gafodd ei dderbyn ar gyfer asesiad o dan adran 4 o'r Ddeddf, caniateir i'r EIMA ymweld â'r canlynol a'u cyf-weld—

(a)     y proffesiynolyn iechyd meddwl a gymeradwywyd neu'r berthynas agosaf a wnaeth y cais iddo gael ei dderbyn yn unol ag adran 4(2) o'r Ddeddf; a

(b)     y meddyg a ddarparodd yr argymhelliad meddygol yn unol ag adran 4(3) o'r Ddeddf

pan na fo'r personau a bennir yn (a) a (b) hefyd yn ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf cymwys Cymreig dan orfodaeth.

Dirymu

7. Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl) (Cymru) 2008([7]) drwy hyn wedi eu dirymu.

 

 

 

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

 



([1])           1983 p.20 mewnosodwyd adrannau 130E i 130L gan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 mccc 7.

([2])           2006 p.42.

([3])           Gweler adran 130J o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 am y diffiniad o ‘Welsh qualifying informal patients’.

([4])           Gweler adran 130I o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 am y diffiniad o ‘Welsh qualifying compulsory patients’.

([5])           1997 p.50.

([6])           Gweler adran 130E(5) o’r Ddeddf sy’n ymwneud â phan na fydd person yn cael ei ystyried fel un sy’n ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol claf.

([7])           O.S.  2008/2437 (Cy.210).